Mae cwmni cartrefi gofal Southern Cross wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu torri 3,000 o swyddi erbyn mis Hydref.

Mae 44,000 o bobol yn gweithio i’r cwmni, sydd â 34 o gartrefi gofal yn ne Cymru.

Cyhoeddodd y cwmni ddiwedd y mis diwethaf eu bod nhw wedi gwneud colledion o £311 miliwn yn ystod y chwe mis i 31 Mawrth.

Mae’r cwmni, sy’n gyfrifol am edrych ar ôl 31,000 o drigolion hŷn, hefyd wedi cyhoeddi na fyddwn nhw’n gallu talu rhent llawn ar eu hadeiladau dros y pedwar mis nesaf.

Heddiw galwodd yr Aelod Cynulliad Peter Black ar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Gofal i sicrhau nad ydi trafferthion ariannol y cwmni yn effeithio ar gartrefi gofal Cymru.

Ymatebodd Lesley Griffiths gan ddweud ei bod hi wedi cwrdd â swyddogion llywodraeth leol er mwyn gwneud fod cynllun ar waith rhag ofn fod Souther Cross yn methu.

“Mae Souther Cross yn cefnogi tua 1,772 o bobol mewn 34 o dai gofal ar draws Cymru,” meddai Peter Black.

“Mae’r ansicrwydd yn rhoi pwysau mawr ar y trigolion a’u teuluoedd. Beth bynnag sy’n digwydd i’r cwmni, y trigolion a’r staff yw’r flaenoriaeth.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydweithio ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn darparu sicrwydd i bawb y bydd modd darparu gofal i’r trigolion heb unrhyw aflonyddwch pellach.”