Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi beirniadu penderfyniad arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, i fynd ar ei wyliau ar ddechrau tymor y Cynulliad.

Wrth ateb cwestiynau yn y Siambr heddiw heriodd Carwyn Jones y cyn-Ddirprwy Weinidog Tai, Jocelyn Davies, ar y mater.

Dywedodd fod penderfyniad Ieuan Wyn Jones i gadw draw yn ystod tymor y Cynulliad yn “anghredadwy”.

Roedd Ieuan Wyn Jones wedi denu beirniadaeth am fethu â bod yn bresennol yn agoriad swyddogol pedwerydd tymor y Cynulliad ddoe.

“Nid y neges yr ydyn ni eisiau ei gyfleu ydi bod yr wrthblaid yn gallu mynd ar eu gwyliau,” meddai Carwyn Jones.

Dywedodd fod ei absenoldeb yn effaithio ar bob plaid am ei fod yn creu’r argraff nad yw Aelodau Cynulliad yn trafferthu mynd i’r Siambr.

“Fe fydd aelodau y Blaid Lafur yma i gymryd rhan a phleidleisio,” meddai. “Mae’n amlwg mai mater o ddewis yw bod yn bresennol i aelodau Plaid Cymru.”

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Jocelyn Davies ynglŷn â’u rhaglen lywodreathol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

“Rydych chi yn ein cyhuddo ni o beidio cael rhaglen lywodreathol ond dydi eich harweinydd chi ddim yn y siambr! Mae’n anghredadwy.”