Mae cyn-Ddirprwy Weinidog Tai yn bwriadu trafod pryderon ynglŷn â dillad ‘rhywiol’ plant ar ddechrau tymor newydd y Cynulliad.

Daw’r drafodaeth yn y Siambr yn dilyn cyhoeddi Arolwg Bailey, oedd yn awgrymu cymryd camau pendant er mwyn gwarchod plant Ynysoedd Prydain rhag delweddau a negeseuon rhywiol.

Mae’r arolwg gan Reg Bailey, Prif Weithredwr Undeb y Mamau, yn dweud fod naw o bob 10 rhiant yn teimlo fod eu plant dan bwysau i aeddfedu yn rhy gyflym.

Roedd rheini hefyd yn pryderu am ddelweddau rhywiol mewn hysbysebion a fideos cerddoriaeth.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am roi cylchgronau amhriodol mewn amlenni fel nad yw plant yn gallu gweld y delweddau rhywiol ar y cloriau.

Plentyndod

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, David Cameron, ddoe ei fod yn croesawu argymhellion yr arolwg ac yn bwriadu eu rhoi ar waith.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Jocelyn Davies ei bod hi hefyd yn cytuno â’r arolwg na ddylid gwerthu dillad, nwyddau na gwasanaethau amhriodol i blant.

“Un o’r pethau mwyaf diddorol am Arolwg Bailey oedd bod rhieni yn chwilio am ddillad addas ar gyfer plant, nid dillad fyddai’n gweddu i oedolion,” meddai.

“Roedd 55 y cant o’r rheini a holwyd yn credu fod gwerthu dillad fyddai’n gweddi i oedolion i blant yn gwneud iddyn nhw ymddwyn yn hŷn nag ydyn nhw.

“Mae hyn yn fater sydd wedi codi pryderon yn y gorffennol ac un ydw i’n gwybod sy’n pryderu aelodau ym mhob plaid.

“Dyw hyn ddim yn fater o ddweud wrth rieni sut i wisgo eu plant ond o sicrhau fod gwerthwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros y delweddau a’r negeseuon y maen nhw’n eu gwerthu.

“Rydw i’n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n cynnal y ddadl yma yn Senedd Cymru ac yn ystyried sut allen ni ddefnyddio ein dylanwad er mwyn sicrhau fod plant yn cael plentyndod.”