Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a'r Fro 2011
Yn dilyn wythnos o gystadlu brwd yn Abertawe a’r Fro, mae’r rhestr gyflawn o enillwyr a fydd nawr yn mynd yn eu blaenau i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2011 wedi ei chyhoeddi. Dyma nhw:
Enillydd Unawd Cerdd Dant 19-25 – Huw Ynyr Evans, Aelwyd JMJ, Bangor
Enillydd y Ddawns Werin Unigol 15-25 – Anna Pardanjac, Conwy
Enillydd Unawd Alaw Werin 19-25 – Ellen Williams, Tu allan i Gymru
Enillydd Llefaru 19-25 – Rhian Davies, Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth
Enillydd Unawd 19-25 – Steffan Jones, Aelwyd Llundain
Enillydd Unawd Offerynnol 19-25 – Glain Dafydd, Bangor
Enillydd Cyflwyniad Dramatig 19-25 – Elen Morgan, Aelwyd y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
Enillydd Unawd Allan o Sioe Gerdd 19-25 – Sian Crisp, Dyffryn Nantlle
Bydd yr wyth yn cystadlu am yr ysgoloriaeth yn Stiwdio’r Ddraig, Pen-y-bont ar Ogwr ar Fedi 25 eleni.