Mae’n bosib bod y wraig a gafwyd yn farw yn Arberth wedi cael ei llofruddio ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos ddiwetha’, meddai Heddlu Dyfed Powys.

Fe gyhoeddwyd mai Angelika Dries-Jenkins yw enw’r wraig 66 oed y daethpwyd o hyd iddi yn ei chartref ddoe.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan am unrhywbeth amheus a ddigwyddodd yn yr ardal yn ystod y dyddiau diwetha’.

Roedd ceir yn cael eu hatal yn y cyffiniau ddoe ac mae disgwyl rhagor o fanylion yn ystod dydd Sul.