Gwyn Jones (llun S4C)
Daeth yn enwog am ochrgamu ar y cae rygbi, ond heddiw datgelodd cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones ei fod wedi cael cryn lwyddiant gyda’i gamau dawnsio ar lwyfannau’r Urdd.
Dywedodd Gwyn Jones, llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw, fod ei brofiadau yn cystadlu yn yr Urdd pan yn blentyn wedi rhoi “nerth” iddo at y dyfodol.
“Ro’n i’n arfer cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau gyda’r Urdd pan oeddwn i’n blentyn,” meddai’r cyn-ddisgybl o ysgol Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin ac yna Ysgol Gyfun Gŵyr.
“Ges i rywfaint o gysylltiad gyda’r Urdd wrth gystadlu yn y dawnsio gwerin sbel yn ôl. Roedd yn anodd iawn gwrthod yr athrawes Gymraeg ac felly ro’n i’n rhan o’r tîm dawnsio gwerin.
“Rydw i’n credu fod yr eisteddfod wedi dysgu pwysigrwydd cystadlu i mi, a bod yn rhan o dîm.
“Mae hynny’n cynnwys cydweithio a gweithio’n galed er mwyn sicrhau llwyddiant ond hefyd gorfod delio gydag ennill a cholli a’r anghyfiawnder chi’n teimlo weithiau.
“Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o hynny – mae wedi rhoi’r cryfder i mi wella ar ôl yr anaf,” meddai Gwyn Jones a ddioddefodd niwed difrifol i’w asgwrn cefn wrth chwarae dros glwb rygbi Caerdydd pan oedd yn 25 oed.
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn eich cysylltu gydag etifeddiaeth, traddodiad a hanes y Cymry Cymraeg ac yn ei gadw i fynd ar gyfer y genhedlaeth nesaf”.