Prifysgol Casnewydd
Mae Prifysgol Casnewydd wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr sydd am astudio rhai cyrsiau yno o 2012 ymlaen.

Casnewydd yw’r pumed Brifysgol yng Nghymru i godi’r uchafswm. Cadarnhaodd Prifysgol Bangor y bydden nhw’n cosi £9,000 ddoe, gan ddilyn yn ôl traed Aberystwyth, Caerdydd a Morgannwg.

Ond ychwanegodd Prifysgol Casnewydd y bydden nhw’n codi ychydig yn llai – sef £8,250 – am rai cyrsiau.

Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r gweddill. Serch hynny fe fydd myfyrwyr sy’n dod i Gymru o Loegr yn gorfod talu’r swm llawn.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru fydd â’r penderfyniad terfynol ynglŷn â’r symiau y bydd y prifysgolion yn cael eu codi.

Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, Dr Peter Noyes, eu bod nhw wedi ystyried “pob dewis oedd ar gael” cyn penderfynu codi’r uchafswm.

“Dydyn ni ddim yn cael unrhyw fwynhad o godi ffioedd dysgu ein myfyrwyr ond dyna’r unig opsiwn sydd ar gael i ni.”

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr eu bod nhw’n “siomedig iawn” fod hanner y Prifysgolion yng Nghymru bellach wedi penderfynu codi’r uchafswm.