Wylfa - tarddiad y trydan
Mae ymgyrchwyr wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i gladdu ceblau trydan newydd o dan ddaear, neu yn y môr, yn hytrach nag “anharddu tirwedd Gogledd Cymru” â pheilonau trydan uchel.
Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i fod yn fwy creadigol yn y modd y maen nhw’n ymateb i’r “her” o fynd â thrydan o Ynys Môn i Lannau Dyfrdwy, ac osgoi codi peilonau trydan newydd ar draws y gogledd.
Gan ddisgwyl dyfodiad Wylfa B a mwy o ffermydd gwynt ar draws y gogledd orllewin, mae’r Grid Cenedlaethol eisioes yn edrych am ffyrdd i ehangu’r rhwydwaith trydan ar draws gogledd Cymru.
Ond mae ymgyrchwyr cefn gwlad yn pryderu y gallai’r peilonau trydan dros 150 troedfedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn a Bryniau Clwyd fod yn ergyd i’r diwydiant twristaidd pwysig.
“Rydyn ni’n bryderus iawn ynglŷn â gweld ail rhwydwaith drydanol yn mynd ar draws ein parciau cenedlaethol a’r afon Menai,” meddai Peter Ogden o’r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.
“Fyddai effeithiau ail rwydwaith drydan, yn yr un ardal a’r cyntaf, yn ofnadwy.”
Mae’r ymgyrch yn galw am gladdu’r ceblau trydan o dan ddaear, neu yn y môr, er mwyn osgoi’r anharddu tirwedd gogledd Cymru.
‘Craith ar y tir, er mwyn cyflenwi Llundain’
Yn ôl Peter Ogden, fe fyddai codi rhagor o beilonau trydan ar draws gogledd Cymru yn “graith ar y tir”.
Ond mae’n dweud mai’r broblem ymarferol fyddai’r “angen i ail-wampio’r rhwydwaith bob rhyw bym mlynedd er mwyn dal i fyny â’r datblygiadau diweddaraf narpariaeth trydan yn yr ardal”.
Amcan ei ymgyrch ef oedd lobio’r Grid Cenedlaethol i “fod mwy creadigol wrth ddatrys y broblem hwn, a meddwl yn y tymor hir”.
Y broblem fawr yng Nghymru, yn ôl Peter Ogden, “yw ein bod ni’n bell iawn o lle mae’r angen go iawn ym Mhrydain – sef Lloegr.
“Yn anffodus, unig ystyriaeth y Grid Cenedlaethol ar hyn o bryd yw ymateb i’r hyn y maen nhw’n gyfrifol am ei ddarparu – ond ry’n ni’n gofyn iddyn nhw newid yr agwedd hwnnw,” meddai.
Byddai protestiadau’r canolbath yn erbyn y ffermydd gwynt ym Mhowys yn ddim ond rahgflas i’r gwrthwynebiad pe bair peilonau trydan newydd yn cael eu codi yng ngogledd Cymru, yn ôl Peter Ogden.
“Ry’n ni eisioes wedi gweld y protestiadau ym Mhowys, a gwrthwynebiad y bobol yno. Byddai teimladau’r bobol yr un fath yng ngogledd Cymru.”
Barod i drafod
Y sefyllfa delfrydol i’r ymgyrch fyddai claddu’r ceblau dan ddaear neu dan y môr, meddai’r ymgyrchwyr.
Os na fyddai hynny yn bosib – ac mae Peter Ogden yn cyfaddef y gallai hynny godi pryderon amgylcheddol – yr ail opsiwn fyddai bod yn rhaid i’r ceblau osgoi’r parciau cenedlaethol.
Pe na byddai hynny’n bosib, mae’r ymgyrch eisiau gweld y ceblau yn cael eu claddu o fewn y parciau cenedlaethol, o leiaf.
“Mae’r penderfyniad yn eu dwylo nhw bellach,” meddai Peter Ogden. “Eu lle nhw yw dod o hyd i ateb creadigol i’r broblem nawr.”