Llywodraeth Cymru
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n tanseilio’i pholisi ei hun o hyrwyddo’r Gymraeg os na fydd yn cryfhau ystyriaethau ieithyddol o fewn canllawiau cynllunio.
Dyna yw rhybudd ymgyrchwyr iaith wrth i’r Llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar y canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch yr ystyriaeth o’r Gymraeg mewn cynlluniau datblygu lleol a cheisiadau cynllunio.
Roedd ymrwymiad i ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – yn rhan o’r strategaeth Iaith Fyw: Iaith Byw a gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr.
Mae’r ymgynghori ar hwnnw bellach wedi dechrau, ac mae gan y cyhoedd hyd at 13 Mehefin i gyflwyno eu sylwadau.
‘Tanseilio’
“Os na fydd y TAN20 newydd yn rhoi arweiniad eglur diamwys ar sut i amddiffyn y Gymraeg, mi fydd amcanion y Llywodraeth i warchod ac esblygu’r Gymraeg yn cael eu tanseilio,” meddai Meirion Davies, cyfarwyddwr Menter Iaith Conwy.
“Mae yna ormod o enghreifftiau lle mae datblygu anghyfrifol wedi newid natur ieithyddol ardal dros nos.
“Mae mewnlifiad sylweddol o Loegr dos genedlaethau wedi effeithio’n ddrwg ar gynaliadwyedd ardaloedd Cymraeg eu hiaith – ac mae’n rhaid i bolisi cynllunio gydnabod hyn a mynd i’r afael â’r broblem.”
Mae Glyn Jones, cadeirydd rhanbarth Clwyd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fynd ati’n fwriadol i hyrwyddo mewnfudo o Loegr gyda chynlluniau i godi miloedd o dai yn y gogledd.
“Drwy fod y boblogaeth naturiol yn lleihau mewn amryw o siroedd Cymru, yr unig ffordd y bydd yr holl dai newydd yma’n cael eu llenwi fydd trwy annog mewnfudo,” meddai.
“Mae hyn yn gwbl anghyson ag unrhyw ddatganiadau gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw’n awyddus i amddiffyn y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.”
Ymateb i’r ymgynghoriad
Mae Meirion Davies yn pwyso ar i unigolion a mudiadau sydd â phryder am ddyfodol cymunedau Cymraeg fanteisio ar y cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth.
“Mae sicrhau canllawiau cynlluio cryfach yn gwbl hanfodol er mwyn cynnal gwaith cyrff fel Menter Iaith Conwy,” meddai.
“Fydd y newidiadau i statws y Gymraeg yn sgil y ddeddf iaith ddiweddaraf yn dda i ddim oni chawn ni gyfundrefn gynllunio sy’n cefnogi’r iaith.”
Mae modd cyflwyno sylwadau i ymgynghoriad y llywodraeth trwy ofyn am ffurflen ymgynghori gan planconsultations-c@wales.gsi.gov.uk a’i hanfon yn ôl cyn 13 Mehefin.