Nick Ramsay
Mae un o’r ddau wleidydd sy’n y ras i olynu Nick Bourne yn Arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad, wedi ei wahardd o dafarn yn dilyn cwis i godi arian at achos da.

Cafodd Nick Ramsay, Aelod Cynulliad Mynwy, ei gyhuddo o siarad yn ddigywilydd gyda’r cwisfeistr yn y Nags Head ym Mrynbuga.

Mae perchennog y dafarn, Simon Key, wedi dweud ei fod am roi’r gorau i fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol.

Dim ond “herian” oedd Nick Ramsay meddai, ac roedd yn ymddiheuro os oedd unrhyw un wedi ypsetio.

Mae’n cystadlu gydag Andrew RT Davies am yr hawl i gael arwain yr wrthblaid yn y Cynulliad.

Roedd Nick Ramsay yn dweud fod y cwis yn y dafarn wedi digwydd rhai misoedd yn ôl, a’i fod yn ei gweld hi’n ddiddorol iawn bod y mater wedi codi yn ystod y ras am arweinyddiaeth ei blaid yn y Bae.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch mor lân ag sydd bosib,” meddai.

‘Heclo’

Mi ddywedodd y tafarnwr Simon Key wrth bapur newydd The Western Mail bod Nick Ramsay wedi “heclo’r cwisfeistr droeon” a dweud wrtho fod ei gwestiynau yn rhai sâl.

“Roedd yn eitha’ digywilydd a doedd yna fawr o groeso i’w sylwadau – rwy’n credu ei fod wedi cael cwpwl o beints,” meddai Simon Key.

Tra’n cydnabod ei fod wedi cael cwpwl o beints, mae Nick Ramsey wedi dweud ei fod wedi ymuno yn awyrgylch a hwyl.

“Dw i ddim yn meddwl fod pobol eisiau gwleidyddion sy’n cael gwydrad o ddŵr ac yna’n cerdded adre’,” meddai.