Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe yn dweud fod angen meddwl am leihau baich yr ŵyl ar athrawon.
Mae angen ffyrdd newydd o hyrwyddo a hyfforddi cystadleuwyr yn yr Urdd heb ddibynnu’n ormodol ar athrawon, meddai Dyfrig Ellis.
Mae wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod y gwaith o hyfforddi plant ar gyfer yr Urdd yn faich ychwanegol ar athrawon erbyn hyn, gan fod y swydd ei hun wedi newid llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae mwy a mwy o alw ar athrawon i gynnal rhyw glwb neu’i gilydd ar ôl ysgol, neu i fynd ar dripiau addysgol ac ati,” meddai Dyfrig Ellis, sy’n bennaeth ar Ysgol Gymraeg Lôn Las yn Abertawe.
“Mae natur y swydd wedi newid ac mae hyn yn arbennig o wir wrth feddwl am Eisteddfod yr Urdd a’r gwaith sydd angen ei wneud gyda’r plant.”
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg