Huw Jones gerbron y pwyllgorau
Mae dau bwyllgor yn y Senedd yn San Steffan wedi cymeradwyo penodi Huw Jones yn Gadeirydd newydd S4C.

Mae hynny’n golygu nad oes unrhyw rwystr iddo gymryd y swydd sydd wedi bod yn wag ers misoedd, ar gyfnod o argyfwng yn hanes y sianel.

Ar ôl ei gyfweld yn gyhoeddus ynghynt yn yr wythnos, mae’r pwyllgorau dethol ar Gymru a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn dweud eu bod yn hapus ei fod yn ymgeisydd teilwng.

“Ar ôl holi Huw Jones, rydan ni wedi’n bodloni ei fod yn arddangos y cymwysterau a’r annibyniaeth bersonol sydd eu hangen ar gyfer y swydd,” meddai David Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

Un o dasgau mwya’r Cadeirydd newydd fydd gynyddu nifer y gwylwyr, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, John Whittingdale.

Pwysleisio annibyniaeth

Roedd Huw Jones wedi pwysleisio bod rhaid cynnal annibyniaeth S4C wrth iddi fynd dan adain y BBC yn 2013, ond roedd yn dweud bod cytundeb gyda’r Gorfforaeth yn angenrheidiol bellach.

Huw Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 ac ef oedd dewis yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt.

Fe ymddiswyddodd y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, ar ôl gwrthdaro gyda gweddill Awdurdod y sianel.