Darren Millar (o'i wefan)
Mae ymgyrchwyr yn erbyn datblygiad tai mawr yn Abergele’n dweud y dylai eu cyngor lleol feddwl eto oherwydd datblygiad arall, mwy, mewn pentref gerllaw.
Ar ôl i Gyngor Sir Ddinbych gytuno ar gynllun datblygu a allai arwain at godi 2,000 o dai newydd ym Modelwyddan, mae Aelod Cynulliad yn dweud bod rhaid ailystyried cynllun i gael 870 o dai yn y dref farchnad yn Sir Conwy.
Yn ôl Darren Millar, sydd wedi gwrthwynebu’r cynlluniau o’r dechrau, mae penderfyniad Sir Ddinbych yn gwneud pethau’n waeth fyth i Abergele.
Barn yr AC
Fe fydd pobol o Fodelwyddan yn defnyddio gwasanaethau yn Abergele, meddai Darren Millar, ac fe fyddai codi rhagor o dai yno hefyd yn mynd dros ben llestri.
“Mi fydd llawer gormod o bwysau ar wasanaethau lleol a straen fawr ar yr isadeiledd, er enghraifft y ffyrdd, sy’n rhy llawn eisoes, y cyfleusterau iechyd ag ysgolion lleol.
“Mae angen ailfeddwl ar frys ynglŷn â’r cynlluniau anghynaliadwy yma.”
Bygythiad i’r iaith
Mae cynghorydd lleol hefyd wedi bod yn dadlau y byddai’r datblygiad yn gwneud drwg i’r iaith Gymraeg – dyna un o bryderon gwrthwynebwyr ym Modelwyddan hefyd.
Yn y gorffennol, mae’r Cynghorydd Phil Edwards wedi rhybuddio rhag troi’r ardal yn “faestref i Gaer”.
Fe ddaeth ymgynghori ynglŷn â Chynllun Datblygu Lleol Conwy i ben ddiwedd mis Ebrill.