Joplin Missouri
Mae o leia’ 89 o bobol wedi marw yn yr Unol Daleithiau a rhagor ar goll yn dilyn tornado enfawr sydd wedi achosi difrod eang i ddinas yn nhalaith Missouri.

Fe gyhoeddodd rheolwr dinas Joplin, Mark Rohr, bod y trowynt yn chwe milltir ar draws ac yn hanner milltir o led a’i fod wedi rhwygo’i ffordd trwy’r ddinas yn Jasper County.

Roedd y rhan fwya’ o ochr ddwyreiniol y ddinas o tua 50,000 o bobol wedi cael ei difrodi’n ddifrifol gyda chartrefi a busnesau wedi eu distrywio’n llwyr, meddai.

Mae nifer o bobl eraill wedi cael eu hanafu yn y storm ac maen nhw wedi cael eu hanfon i ysbytai cyfagos. Mae’r awdurdodau’n dweud bod rhai pobol yn parhau i fod wedi eu dal yn y rwbel.

Mae achubwyr yn mynd o amgylch y ddinas yn chwilio am bobol ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn ofalus oherwydd bod peilonau trydan wedi disgyn ac mae pibellau nwy wedi torri gan achosi tanau yn y ddinas dros nos.