Mae cyfarfod llawn o Gyngor Sir Ddinbych wedi pasio cynllun dadleuol i dreblu maint pentref Bodelwyddan. 

Roedd y bleidlais yn tu hwnt o agos, gydag 20 o gynghorwyr o blaid ac 20 yn erbyn – ond gan bod y Cadeirydd o blaid, cafodd ei bleidlais ei chyfrif ddwywaith.

 Mae Cynllun Datblygu Lleol y cyngor yn argymell codi 1,715 o dai, ysgol gynradd, cartref gofal yn y pentref, yn ogystal â lôn newydd i gysylltu Bodelwyddan gyda ffordd ddeuol yr A55.

 Fe ddechreuodd ymgynghoriad ar y cynllun ym mis Hydref 2009 ac mae’r cyngor yn dweud bod y cynllun yn ceisio ateb y galw am brinder tai yn y sir. 

 Mae Cyngor Sir Ddinbych yn credu bod angen darparu 7,500 o gartrefi newydd erbyn 2021, er mwyn cwrdd ag anghenion yr ardal. 

 Ond mae’r cynllun wedi ei wrthwynebu gan drigolion Bodelwyddan ac maen nhw wedi cynnal sawl protest. 

 Roedd Grŵp Gweithredu Datblygiad Bodelwyddan, a sefydlwyd i wrthwynebu’r cynllun, yn cynnal protest heddiw wrth i’r cynghorwyr fynd i’r cyfarfod.