Lesley Griffiths - y gweinidog newydd
Mae Llafur a’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi gwrthdaro tros ffigurau aros yn y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl y Torïaid, mae’r nifer sy’n aros mwy na 36 wythnos am driniaeth y galon wedi codi 10,800 y cant mewn blwyddyn.
Ond mae mwyafrif llethol y cleifion yn cael eu trin o fewn yr amser targed, meddai Llywodraeth Cymru.
Yr honiadau
Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, sydd wedi gwneud yr honikadau ar ôl i’r Gweinidog Iechyd newydd, Lesley Griffiths, rybuddio na ddylai amseroedd aros lithro.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae nifer y cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth ar y galon wedi codi o fwy na 30% yng Nghymru ers mis Rhagfyr 2009.
Ar hyn o bryd, medden nhw, mae 13,613 o gleifion yn disgwyl am driniaeth ac mae mwy na 100 o’r rheiny wedi bod yn aros ers mwy na naw mis.
O ran y rhai sy’n aros 36 wythnos neu fwy, mae Darren Millar yn honni bod y ffigwr wedi codi o 76 ym mis Mawrth y llynedd i 5,207 eleni.
“Mae nifer y cleifion sy’n disgwyl am driniaeth ar y galon yn parhau i godi, ac mae nifer cyffredinol y bobl sy’n disgwyl am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd wedi codi’n aruthrol” meddai Darren Millar.
“Mae angen i’r Gweinidog iechyd newydd fod yn onest am y sefyllfa a dechrau’i chywiro.”
Ymateb y Llywodraeth…
“Mae mwyafrif y cleifion yn parhau i gael eu gweld ac yn derbyn triniaeth o fewn y targedau amseroedd aros,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae ychydig dros 99% o’r cleifion oedd yn aros am driniaeth ar y galon wedi disgwyl llai na 36 wythnos o’r dyddiad y gwnaeth yr ysbyty dderbyn llythyr yn eu cyfeirio yno.
“Fe gafodd 96.6% o’r cleifion a dderbyniodd driniaeth yn ystod mis Mawrth eu trin o fewn 26 wythnos.”