Roedd hi’n “anhygoel” bod y Llywodraeth yn Llundain a’r BBC wedi cytuno i newid arian a statws S4C heb drafod gyda’r sianel.
Dyna gasgliad un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin sy’n dweud bod y newid fel “gorfod priodi” ac mae’n codi amheuon mawr am annibyniaeth y sianel Gymraeg o dan y trefniadau newydd.
S4C
Dyma’r ail adroddiad beirniadol o fewn wythnos am yr hyn ddigwyddodd ac mae’n canolbwyntio ar rôl y BBC ar ôl i’r Gorfforaeth gytuno i gymryd y cyfrifoldeb am dalu am S4C o’r drwydded deledu.
Roedd hynny wedi digwydd yn yr hydref y llynedd, mewn cyfarfodydd brys rhwng yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, a Chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Syr Michael Lyons.
‘Rhyfeddol’
Y penderfyniad oedd bod arian S4C yn dod o’r drwydded deledu ond ei bod yn mynd dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth y BBC, yr awdurdod sy’n llywodraethu’r Gorfforaeth. Ar y pryd, doedd S4C ddim yn gwybod dim am y peth.
Dyma sylwadau’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon:
“Rydyn ni’n ei gweld hi’n rhyfeddol bod y Llywodraeth a’r BBC, sy’n ffyrnig wrth amddiffyn ei hannibyniaeth ei hun, yn credu ei bod yn dderbyniol i gytuno i newid trefniadau ariannu a llywodraethu darlledwr annibynnol statudol arall, S4C, heb i’r llall gael unrhyw ran yn y ddeal, na hyd yn oed wybodaeth amdani nes ei bod wedi ei gwneud.”
Yn ystod eu hymchwiliad, roedd y Pwyllgor wedi codi amheuon a oedd hi’n bosib i S4C fod yn annibynnol a hefyd dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth y BBC.
Codi amheuon am annibyniaeth
Roedd Michael Lyons wedi awgrymu y byddai’r berthynas rhwng S4C a’r Ymddiriedolaeth yn debyg i’r berthynas rhwng y BBC ei hun a’r Ymddiriedolaeth.
Dyma ddyfarniad y Pwyllgor:
“Rydyn ni’n parhau i’w gweld hi’n aneglur sut y gall S4C gadw’i hannibyniaeth os oes gan Ymddiriedolaeth y BBC rôl strategol … Mae’r briodas orfod – shotgun marriage – rhwng S4C a’r BBC yn bartneriaeth anghyfforddus.”
Os na fydd y cynllun yn gweithio, medden nhw, neu os na fydd S4C yn gallu cadw’i hannibyniaeth olygyddol a gweithredol, fe ddylai arian y drwydded gael ei ddefnyddio i dalu amdani heb unrhyw oruchwyliaeth gan Ymddiriedolaeth y BBC.