Syrthiodd diweithdra yng Nghymru ynghynt na’r cyfartaledd Prydeinig yn ystod chwarter cyntaf 2011, cyhoeddwyd heddiw.
Dyma’r gwymp cyntaf mewn 6 mis. Roedd cynnydd o 100 yn nifer y rheini sy’n hawlio’r dôl.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ei bod hi’n croesawu’r ystadegau sy’n dangos bod canran y bobol ddi-waith yng Nghymru wedi syrthio 0.7%, i 7.7%.
Cynyddodd canran y bobol mewn gwaith 12,000 i 1.347m, neu 0.9% i 68.5%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ond mae arbenigwyr economaidd wedi rhybuddio fod disgwyl i lefelau diweithdra gynyddu ar draws Prydain erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd toriadau i swyddi yn y sector gyhoeddus yn dechrau effeithio ar y wlad o ddifrif erbyn hynny, medden nhw.
“Mae’r ystadegau diweddaraf yn newyddion da i Gymru, sydd wedi gweld cwymp mawr yn nifer y bobol sy’n ddi-waith,” meddai Cheryl Gillan.
“Mae’n cadarnhau ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad cywir wrth i ni geisio adfywio’r economi.”
Dywedodd fod economi Cymru yn parhau i wynebu sawl her a’i bod yn bwriadu “cydweithio yn agos gyda Chabinet newydd Llywodraeth y Cynulliad er budd pobol Cymru”.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar fenter a busnes, Andrew RT Davies, fod y ffigyrau yn “newyddion da iawn i Gymru”.
“Mae’n dangos mai strategaeth Llywodraeth San Steffan yw’r un cywir,” meddai.
“Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad roi blaenoriaeth i adeiladu ar hynny”.
Dywedodd fod yr “adrannau sydd â rheolaeth dros yr economi – gan gynnwys trafnidiaeth, cynllunio a sgiliau – wedi eu gwasgaru o amgylch bwrdd y Cabinet”.
“Mae arweinwyr busnes wedi bod yn galw am un adran unedig er mwyn mynd i’r afael â’r mater,” meddai.
“Mae’n bwysig nad ydi hen ddull y Blaid Lafur o reolai’r economi yn parhau.”