Mynwent
Mae Cymru’n rhedeg allan o le i gladdu’r meirw ac mae angen polisi ar frys er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, meddai’r Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd yr Eglwys fod y broblem bellach yn un amlwg ar draws Cymru gyfan.

Ymhen deng mlynedd, ni fydd gan ddwy ran o dair o fynwentau’r Eglwys yng Nghymru le ar gyfer rhagor o gyrff, medden nhw.

Mae’r Eglwys yng Nghymru’n gyfrifol am dros 1,000 o fynwentydd ledled Cymru ac maen nhw eisoes wedi clustnodi £16 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Mae’r mynwentydd yn cael eu cynnal gan aelodau lleol heb unrhyw gymorth gwladwriaethol ffurfiol, ond ni all hynny barhau, meddai’r Eglwys.

‘Cymuned’

Pryder Alex Glanville, pennaeth Gwasanaethau eiddo’r Eglwys yng Nghymru, yw na fydd pobol yn gallu cael eu claddu o fewn eu cymunedau lleol yn y dyfodol.

“Mae hi bellach yn amhosib cymryd yn ganiataol y bydd lle i bobol orffwys yn eu cymunedau lleol, neu gerllaw,” meddai.

“Fe fydd y mwyafrif o  fynwentydd eglwysi yn llawn a does gennym ddim yr adnoddau i’w ehangu neu i agor rhai newydd.

“Mae cynnal a chadw mynwentydd hefyd yn broblem gan ein bod yn wynebu bil mawr i’w hatgyweirio.

“Rydan ni’n dibynnu ar ewyllys da gwirfoddolwyr sy’n byw yn agos.”

Casglu Gwybodaeth

Dywedodd  Simon Wilkinson o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth Golwg360 eu bod yn casglu gwybodaeth gan bob cyngor yng Nghymru er mwyn gweld pa mor ddifrifol yw’r broblem.

“Mae hyn yn cynnwys eu barn ar argaeledd gofod mynwentydd a’r gost gynyddol o gynnal a chadw mynwentydd eglwysi,” meddai.

“Ym mis Mehefin, bydd rheolwyr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wasanaethau profedigaeth yn trafod y materion hyn.”