Swyddfa S4C yng Nghaerdydd
Mae S4C wedi dweud y bydd rhaid diswyddo staff yn sgil toriadau yng nghyllideb y sianlel.
Dywedodd y sianel eu bod nhw wedi sefydlu cynllun diswyddiadau gwirfoddol ymhlith y staff.
Cyhoeddwyd y cynllun mewn cyfarfod heddiw rhwng y Prif Weithredwr, Arwel Ellis Owen a’r staff, meddai llefarydd.
Yn ogystal â gwahodd ceisiadau diswyddo gwirfoddol, cyhoeddodd S4C ei fod yn barod hefyd i ystyried ceisiadau gan staff sy’n dymuno lleihau eu horiau gwaith neu rannu swyddi.
Cyhoeddwyd toriad yng nghyllideb S4C o 24% dros bedair blynedd fel rhan o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd.
Bydd y sianel hefyd yn cael ei rhoi dan adain y BBC a does dim cynlluniau ariannol eto y tu hwnt i 2015.
Ddoe dywedodd y Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan fod y penderfyniad i roi y sianel dan adain y BBC wedi ei wneud ar hast, heb ymgynghori digon.
Roedd yr adroddiad hefyd yn galw am well rheolaeth ariannol a gwneud y sianel yn atebol i’r Cynulliad.
Ond roedd y ffaith ei bod yn gallu torri 40 o swyddi’n awgrymu bod arbedion i’w gwneud, meddai’r adroddiad, ac roedd angen rhoi’r gorau i’r arfer o dalu am yswiriant iechyd preifat i rai o’i gweithwyr.
Ddechrau’r wythnos cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan mai cyn-brif weithredwr S4C, Huw Jones yw eu dewis nhw i gael ei benodi’n Gadeirydd newydd Awdurdod y sianel.
Ymddiswyddodd y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, cyn y Nadolig.
‘Dim ond dechrau’
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mai “dim ond dechrau” mae’r toriadau i wasanaeth S4C.
“Mae toriadau enfawr y Llywodraeth yn rhoi dyfodol S4C yn sianel annibynol yn y fantol,” meddai.
“Os nad yw pethau yn newid yn fuan, ni fydd digon o staff ar ol gyda’r sianel i gynnal gwasanaeth annibynol, ac fe fydd y BBC yn cymryd drosodd yn gyfan gwbl.
“Byddwn ni nol yn yr un sefyllfa ag oedd yn bodoli cyn sefydlu’r sianel pan oedd cystadleuaeth am adnoddau rhwng rhaglenni Cymraeg a Saesneg.
“Yn y diwedd, bydd ein holl gymdeithas yn dioddef, wrth i’r Gymraeg, etifeddiaeth unigryw holl drigolion Cymru, ddiflannu o’n bywydau.
“Mae mwyafrif ASau Cymru, arweinydd y pedair brif blaid yng Nghymru, pob undeb a mudiad iaith,y degau o filoedd o bobl sydd wedi mynychu ein cyfarfodydd a raliau yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn.
“Ond, mae’r llywodraeth a’r BBC yn gwrthod gwrando. Dyw pobl Cymru ddim yn dwp: rydyn ni’n gwybod nad oes angen torri 94% o grant y Llywodraeth i’r sianel oherwydd y diffyg ariannol – mae’n doriad cwbl annheg.”