Jason Powell
Mae teulu tad-cu a perchennog tafarn fu farw mewn damwain car ddydd Gwener wedi talu teyrnged iddo.

Fe fuodd y beiciwr modur Jason Powell, 45, farw yn dilyn damwain rhwng fan a char yn Nhorfaen.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i alw am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad, wrth i deulu Jason Powell ddod i delerau â’u colled.

“Roedd pawb yn galw Jason Powell yn ‘Pow’,” meddai’r datganiad gan ei deulu.

“Fe fydd teulu a phobol leol yn gweld eisiau Pow. Roedd yn ŵr i Natalie, yn dad i Nischa ac yn Bamby ymroddedig i Bailey.

“Roedd Pow yn gnaf hoffus ac fel perchennog tafarn y Queen Vic, Blaenafon, roedd pawb yn ei garu.”

Jason Powell oedd yr unig un fu farw yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Varteg, Blaenafon, am 5pm ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn gyrru beic modur Suzuki du.

Aethpwyd a gyrrwr benywaidd y car i’r ysbyty ond doedd hi ddim wedi ei hanafu.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedd unrhyw un wedi ei arestio, ond eu bod nhw’n parhau i geisio creu darlun cyflawn o beth ddigwyddodd cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 01633 838111.