Branwen Niclas
Heddiw yw’r pedwerydd diwrnod i un o swyddogion Cymorth Cristnogol Cymru fyw am bunt y dydd er mwyn codi ymwybyddiaeth o dlodi.
Yr wythnos yma, mae Branwen Niclas, Cydlynydd Cyfathrebu Cymorth Cristnogol Cymru, wedi bod yn byw am £1 y dydd ar gyfer bwyd a diod – i dynnu sylw at y ffaith fod 1.4 biliwn o bobl yn byw ar lai na hyn bob dydd.
Fe ddechreuodd yr her yn Aberdaron – ar ôl penwythnos o wersylla yn y garafán gan brynu banana i frecwast am 21c o’r siop leol. Roedd hyn yn gadael £4.79 ar gyfer gweddill yr wythnos.
“Er gwneud llawer o waith ymchwil o ran prisiau ayb, roedd cael y swm yma o arian, a gorfod dethol a dewis beth i’w brynu yn dipyn o benderfyniad,” meddai Branwen Niclas.
“Gwariais £3 ddydd Llun ar flawd, pasta, nionyn, pack choi, moronen, 6 banana, 2 chilli. Mae pasta wedi bod yn greiddiol felly, a phobais dorth o fara nos Fawrth,” meddai cyn dweud bod gweddill yr arian ar gyfer diwedd yr wythnos.
Un o bob pump
Fe fydd yr holl nawdd a gesglir drwy sialens Branwen Niclas yn mynd at Gymorth Cristnogol.
Yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli i wneud yr her yw’r teuluoedd iddi gyfarfod yn ardaloedd sychder gogledd Kenya yn ddiweddar, meddai.
“Roedd rhai o’r teuluoedd hynny yn gorfod ymdopi ar 20litr o ddŵr yr wythnos yn unig rhyngddynt, ac yn gwbl ddibynnol ar gymorth bwyd.
“Mi fyddaf i yn ffarwelio â’r her yma dros y penwythnos, ac yn dychwelyd i foethusrwydd medru gwario’r hyn a fynnaf ar fwyd. Nid felly un o bob pump o boblogaeth y byd,” meddai.
‘Drud’
Ond, mae tlodi i’w weld yn llawer nes at adref hefyd.
“Dwi fel arfer yn bwyta llawer iawn, iawn o lysiau. A’r wythnos hon, dwi wedi sylweddoli pa mor ddrud yw bwydydd iach a ffres. Amhosib yw cael 5 dogn o ffrwythau a llysiau ffres ar £1 y dydd,” meddai cyn dweud ei bod yn “gweld eisiau llysiau’n ofnadwy”.
“Dw i’n poeni lot am gynnydd cost bwyd yn fan hyn. Mae’r profiad wedi agor fy llygaid go iawn i brisiau bwyd yma a pha mor anodd yw hi i gael deiet cytbwys ar incwm isel yma.
“Mae’n rhaid cynllunio lot mwy wrth fyw am bunt y dydd a gwneud penderfyniadau doeth.”