Arwyddion yng Ngheredigion
Mae ymgeiswyr Etholiadau’r Cynulliad wedi bod yn ymgyrchu’n frwd heddiw, ychydig oriau yn unig cyn agor y blychau pleidleisio bore yfory.

Dyma fydd yr etholiad pwysicaf ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999, ar ôl i’r senedd ddatganoledig ennill y grym i greu ei ddeddfau ei hun yn dilyn refferendwm ym mis Mawrth.

Mae disgwyl i ganran uwch o’r boblogaeth bleidleisio eleni hefyd, oherwydd fod y refferendwm ar newid i’r system bleidlais amgen gael ei gynnal yr un diwrnod.

Dewisodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sedd ymylol Aberconwy ar gyfer araith olaf ei daith o amgylch Cymru.

Plaid Cymru a’u hymgeisydd, Iwan Huws, sy’n amddiffyn y sedd yn y Cynulliad ond mae disgwyl her gref gan Lafur a’r Ceidwadwyr hefyd.

Dywedodd yr arweinydd 44 oed fod ei blaid yn cynnig dewis arall i gynlluniau Lywodraeth San Steffan sy’n “torri gormod ac yn rhy gyflym”.

“Rydyn ni’n gwybod fod teuluoedd Cymru yn ei chael hi’n anodd, ac rydyn ni’n gwybod fod hyn o ganlyniad i doriadau di-hid llywodraeth San Steffan sydd heb unrhyw gynllun ar gyfer economi Cymru,” meddai.

“Mae’r toriadau yn brifo, ond dydyn nhw ddim yn gwneud dim lles.

“Celwydd y Ceidwadwyr yw nad oes yna unrhyw ddewis arall ond torri. Rydyn ni’n gwybod fod dewis arall – y Blaid Lafur.”

Addewidion

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, wedi bod yn ymgyrchu gydag Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan yn ne Cymru heddiw.

Fe fuodd Nick Bourne, 59 oed, yn amlinellu addewidion ei blaid i warchod cyllideb y gwasanaeth iechyd a darparu cardiau bws am ddim i aelodau’r lluoedd arfog.

“Yn oriau olaf yr ymgyrch fe fyddwn ni’n hybu ein haddewid i wrth-droi toriadau £1 biliwn y Blaid Lafur i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru,” meddai.

“Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig blaid sy’n addo amddiffyn cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i gynyddu gyda chwyddiant.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, 61 oed, na ddylai’r Blaid Lafur gymryd cefnogaeth y Cymry yn ganiataol.

“Fe fydd ein cynllun i greu 50,000 o swyddi yn heb enfawr i’r economi ar adeg pan mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi torri ein cyllideb cyfalaf,” meddai.

“Fe fydd yn caniatáu i ni barhau i adeiladu ysgolion, ysbytai a chartrefi, yn ogystal â meithrin twf yn y sector adeiladu.”