Fis diwethaf, dadleuodd Cai Larsen, awdur Blogmenai, y dylai Plaid Cymru fynd yn ôl i glymblaid â’r Blaid Lafur ar ôl Etholiadau’r Cynulliad. Dyma Alwyn ap Huw, awdur blog Hen Rech Flin, yn rhoi’r safbwynt arall…
Rwy’n casáu ‘r Blaid Lafur. Mae bron y cyfan o broblemau cyfoes Cymru yn deillio o dra-arglwyddiaeth Llafur ar Gymru ers cyfnod ym mhell cyn cyfnod Datganoli. Ac mae diffygion datganoli yn deillio o’r ffaith bod y gyfundrefn datganoli sydd yn bod yng Nghymru yn un a grëwyd i ymateb i anghenion y Blaid Lafur yn hytrach nac anghenion Cymru
Os yw’r ffigyrau yn caniatáu, yn ddi-os, mi fyddai’n well gennyf i weld Plaid Cymru mewn Clymblaid Enfys, gwrth Lafur.
Os mae’r unig ddewis i etholwyr Cymru yw Llafur, Llafur a Phlaid neu Lafur a Rhyddfrydwyr Democrataidd, be di pwrpas etholiad? Mae’r Blaid Lafur am arwain y sioe am fyth bythoedd Amen!
Waeth beidio gwastraffu arian ar etholiad, gwaeth derbyn unbennaeth Llafur, gwrth Gymreig, ar Gymru hyd Sul y Pys!
Mae’r Blaid Lafur wedi tra-arglwyddiaethu dros wleidyddiaeth Cymru am yn agos i ganrif, ac mae rheolaeth un blaid am gyhyd yn ddrwg i ddemocratiaeth, mae angen dewis amgen.
Ar hyn o bryd yr Enfys yw’r unig ddewis amgen!
Byddai cyfnod allan o lywodraeth yn llesol i Lafur, ac yn caniatáu iddi edrych eto ar beth yw ei nod gwleidyddol a chaniatáu iddi ail gysylltu â’r Gymru gyfoes.
Yr unig beth sydd yn rhwystro Clymblaid Enfys a all greu dewis lywodraeth, iachus, i etholwyr Cymru yw bod ambell aelod o’r Blaid yn rhoi lles Sosialaeth o falen lles Cymru! Yn rhoi Llafur o flaen Cymru, i bob pwrpas.
Y peth mwyaf hurt am ymwrthod â’r enfys, yw’r ffaith bod y tair gwrthblaid wedi bod mewn enfys o’r blaen. Yn ystod cyfnod Llywodraeth Leiafrifol Llafur, yr Enfys gafodd wared ag Alun Michael fel yr Ysgrifennydd Cyntaf.
Rhwng 2003 a 2007, trechwyd y Llywodraeth Llafur yn aml gan Wrthblaid Enfys o Bleidwyr, Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr ar sawl achlysur!
Oes all wrthblaid enfys wneud hynny, pam ddim Llywodraeth Enfys?