Senedd
Mae’r Blaid Werdd wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog o ethol eu Haelod Cynulliad cyntaf ddydd Iau, ar ôl i arolwg barn ddangos bod ganddyn nhw’r gefnogaeth angenrheidiol i lwyddo.

Yn ôl arolwg barn YouGov mae’r Blaid Werdd ar 8% o’r bleidlais yng Nghanol De Cymru ar gyfer yr etholiad ar 5 Mai.

Mae’r Blaid Werdd yn dweud mai 7% o’r bleidlais sydd ei angen arnyn nhw i sicrhau bod Jake Griffiths yn cael ei etholi i’r Cynulliad.

Mae’r Blaid Werdd wedi bod yn ymgyrchu i geisio perswadio pleidleiswyr i’w dewis hwy ar gyfer eu hail bleidlais.

Gwastraffu

Yn ôl y Blaid Werdd fe gafodd 74,000 o bleidleisiau Llafur eu gwastraffu yn yr etholiad diwethaf oherwydd bod system etholiadol gyfrannol yn golygu bod y nifer fawr o bleidleisiau cyntaf yn eu gwneud hi’n amhosib iddyn nhw ennill seddau ar yr ail bleidlais.

“Yn yr etholiad diwethaf roedd pleidleisiau gafodd eu gwastraffu Llafur wedi galluogi’r Torïaid a Plaid Gymru i ennill y pedair sedd ranbarthol,” meddai’r Blaid Werdd mewn datganiad.

Mae’r Blaid Werdd yn rhybuddio y gallai ail bleidlais i Lafur olygu bod y Ceidwadwyr yn mynd yn rhan o’r Llywodraeth.

“Fe fyddai’r Blaid Werdd yn llais cryf yn y Cynulliad i wrthwynebu’r toriadau sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth San Steffan.  Os rydych chi’n pleidleisio Llafur dydd Iau ac nid am ddihuno i lywodraeth enfys dan arweiniad y Toriaid, a bydd yn gwneud yr un niwed yng Nghymru, yna rhowch eich ail bleidlais i’r Blaid Werdd,” meddai Jake Griffiths.