Gweithiwr i gwmni gwasanaethu cerbydau wedi torri i lawr oedd y dyn a gafodd ei ladd ar yr M4 ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr neithiwr.

Cafodd Richard Cox, 38 oed o Benarth, ei daro gan dancer Volvo llwyd tua 7 o’r gloch wrth helpu teithwyr fan camper Fiat gwyn a oedd wedi torri i lawr ar yr ysgwydd galed.

Talwyd teyrnged iddo heddiw gan ei wraig Louisa:

“Roedd Rich yn ŵr ffyddlon i mi ac yn dad ardderchog i Dean a Caitlin,” meddai. “Fe fydd ei farwoaleth yn gadael gwacter ym mywydau pawb a oedd yn ei adnabod.”

Cafodd Richard Cox ei ddatgan yn farw yn y fan a’r lle, ond chafodd gyrrwr na theithiwr y fan camper mo’u hanafu, yn ôl yr heddlu.

Fe fu cerbydffordd yr M4 tua’r gorllewin rhwng Pencoed a Sarn wedi cau am bum awr wrth i’r heddlu ymchwilio a chlirio’r cerbydau.

Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n parhau â’u hapêl am dystion i’r digwyddiad.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu: “Roedd y ffordd yn brysur pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Hoffai’r heddlu siarad gydag unrhyw un a oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad neu a stopiodd i roi help, neu unrhyw un a allai fod wedi gweld y cerbydau’n cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad ac nad ydyn nhw hyd yma wedi rhoi eu manylion.”

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu ag uned plismona ffyrdd Heddlu De Cymru yng Ngwaelod y Garth ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.