Gwaith dur Port Talbot
Mae cwmni Tata Steel wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £53 miliwn ar wella effeithlonrwydd ynni yng ngwaith dur Port Talbot.

Dywed y cwmni, sy’n cyflogi tua 7,500 o bobl yng Nghymru, eu bod nhw’n disgwyl i’r cynllun arbed tua 10MW o ynni – digon ar gyfer 20,000 o gartrefi.

Fe fydd hyn yn digwydd yn sgil cyflwyno system oeri newydd yn y gwaith dur a fydd yn creu stêm a fydd yn ei dro yn cynhyrchu trydan yno.

Dywed Tata ei fod yn disgwyl i’r gwaith gael ei gyflawni yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.

“Mae’r prosiect yma’n symud ymhellach tuag at ein gweledigaeth o ddod yn hunan-gynhaliol mewn ynni ac yn gwella’n perfformiad amgylcheddol ni,” meddai John Ferriman, cyfarwyddwr Cynhyrchion Stribedi Tata Steel ym Mhrydain.

“Fe fydd y system newydd yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ynni Port Talbot.”

Daw’r buddsoddiad yma ar ben buddsoddiadau eraill o £185 miliwn mewn ailadeiladu ffwrnais a £60 miliwn mewn prosiect adfer ynni.

‘Gosod y safon’

Dywedodd Karl-Ulrich Kohler, rheolwr gyfarwyddwr Tata Steel yn Ewrop, bod y buddsoddiad yn dangos ymrwymiad y cwmni i sicrhau y bydd ei weithfeydd dur yng Nghymru yn gosod y safon ar gyfer y diwydiant yn Ewrop.

 Mae’r cynllun wedi cael ei groesawu’n frwd gan wleidyddion blaenllaw.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan:

“Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, mae’r buddsoddiad diweddaraf yn newyddion gwych i ddyfodol hirdymor Tata yng Nghymru, ac yn bleidlais o hyder yn ei weithlu profiadol ac ymroddgar ym Mhort Talbot ac yn economi Cymru’n gyffredinol.

“Mae hefyd yn newyddion da i’r amgylchedd gan y bydd y system oeri newydd yn gostwng gofynion pwer allanol tua 15% ym Mhort Talbot, digon ar gyfer hyd at 20,000 o gartrefi, ac fe fydd yn cyfrannu tuag wneud safle Tata yn fwy hunan-gynhaliol mewn ynni.”

Ac meddai arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, y gweinidog datblygu economaidd yn llywodraeth ddiwethaf y Cynulliad:

“Mae nid yn unig yn sicrhau swyddi, ond hefyd yn dod â manteision economaidd, gan gyfrannu tuag at wneud y safle’n fwy hunan-gynhaliol mewn ynni a gwelliant cyffredinol mewn perfformiad amgylcheddol.”