Leanne Wood
 Mae prif ymgeisydd Plaid Cymru ar restr Canol De Cymru’n apelio ar i bleidleiswyr Llafur roi eu hail bleidlais iddi hi.

Daw hyn yn sgil pryder ymysg y Blaid y gallai’r Torïaid ennill sedd ychwanegol ar y rhestr rhanbarthol os byddan nhw’n colli Gogledd Caerdydd i Lafur. Byddai hynny’n golygu un aelod yn llai i Blaid Cymru yn y rhanbarth.

Mewn neges benodol at bleidleiswyr Llafur ar ei blog, dywed Leanne Wood nad oes gan Lafur unrhyw obaith o ennill sedd ranbarthol.

“Ym mhob etholiad ers cychwyn y Cynulliad, brwydr rhwng Plaid Cymru a’r Torïaid fu’r seddau rhanbarthol,” meddai.

“Yn 2007, fe wnaeth Plaid ennill dwy o’r pedair sedd ranbarthol a’r Torïaid y ddwy arall – doedd y 70,000 o bleidleisiau Llafur yn cyfrif am ddim.”

Dadleua Leanne Wood fod gan bolisïau Plaid Cymru lawer yn gyffredin â gwerthoedd sy’n agos at galon pleidleiswyr Llafur, fel gwrthwynebu preifateiddio a chefnogi hawliau gweithwyr.

“Gall pleidleiswyr Llafur helpu lleihau’r perygl o gael mwy o Dorïaid trwy bleidleisio i Blaid Cymru gyda’u hail bleidlais,” meddai.