Pencadlys S4C
Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi gwrthod datgelu gwybodaeth am y trafodaethau rhwng y BBC ac S4C ynglŷn â dyfodol y sianel.

Mae’r Adran Ddiwylliant wedi gwrthod cais rhyddid gwybodaeth ac apêl ddiweddarach yn gofyn am ddatgelu beth sy’n digwydd yn y trafodaethau.

Fe ddywedson nhw wrth Gymro o Lundain, Huw Evans, y bydden nhw’n ystyried cyhoeddi rhai o gofnodion y trafodaethau ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud.

Doedd hynny ddim yn ddigon da, meddai yntau, gan ddweud bod angen i bobol Cymru gael clywed am y trafodaethau wrth iddyn nhw ddigwydd er mwyn deall beth sy’n cael ei ystyried.

Mae bellach yn cyflwyno apêl arall i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

‘Angen lle’

Roedd swyddog o’r Adran Ddiwylliant wedi dweud eu bod yn gwrthod y cais oherwydd y gallai hynny beryglu safon y penderfyniad.

Roedd angen “lle rhesymol” i swyddogion drafod yn  rhydd ac agored, meddai, ac fe fyddai cyhoeddi manylion wedyn yn dangos pam fod y penderfyniad wedi’i wneud.