Chris Ruane
Mae un o Aelodau Seneddol gogledd Cymru yn awyddus i glywed profiadau a throeon trwstan pobol yr ardal yn ymwneud â theclynau cyfeirio SatNav.

Mae Chris Ruane yn dweud ei fod eisoes yn ymwybodol o drafferthion yn ei etholaeth ei hun yn Nyffryn Clwyd, ond mae bellach eisiau clywed gan bobol ar draws y gogledd.

Mae cyfarwyddiadau Sat Nav wedi bod yn creu problemau ar hyd ffyrdd gwledig Dyffryn Clwyd ar ôl gyrru lorïau i lawr ffyrdd sy’n rhy gul gan achosi difrod. Yn ôl Chris Ruan, mae problemau o’r fath yn golygu bod rhai adeiladau a ffyrdd yn cael eu “difrodi” wrth i loriau geisio mynd o amgylch corneli cul.

Fe ddywedodd fod systemau Sat Navs wedi bod yn gyrru lorïau i lawr yr B5429. Wrth i’r ffordd ddod i Fodfari, mae’n culhau ac mae corneli siarp yn gwneud y ffordd yn anaddas i gerbydau mawr, meddai.

“Dyma sefyllfa sy’n effeithio ar lawer o gymunedau gwledig ac mae gen i ddiddordeb gwybod gan bobl eraill sydd wedi dioddef problemau tebyg yn lleol,” meddai Chris Ruane.

Os oes ganddoch chi brofiad o hyn, mae’n bosib cysylltu â Chris Ruane AS drwy ysgrifennu ato 25 Stryd Kinmel, Rhyl, Sir Ddinbych , LL18 1AH, ei e-bostio: ruanec@parliament.uk, neu trwy ffonio 01745 354626.