Mae dau o gymeriadau plant Cymru wedi dod at ei gilydd i recordio fersiwn newydd o anthem Urdd Gobaith Cymru, Hei Mistar Urdd ar gyfer fideo newydd.
Bydd un o gymeriadau Cyw, Rapscaliwn, a Mistar Urdd yn ffilmio’r fideo pop newydd yng Ngerddi’r Castell, Abertawe yr wythnos hon.
Bydd y fideo yn barod erbyn Eisteddfod yr Urdd Abertawe a gynhelir ar gyrion y ddinas rhwng 30 Mai a 4 Mehefin.
Mae S4C a’r Urdd wedi dod ynghyd i recordio fersiwn newydd o’r gân a gafodd ei rhyddhau yn gyntaf yn 1976 gan fudiad plant ac ieuenctid Cymru.
Bydd S4C yn defnyddio’r fideo fel ffilm hysbysebu i dynnu sylw at ddarllediadau byw ac uchafbwyntiau cynhwysfawr y Sianel o ŵyl ieuenctid fwya’ Ewrop.
“Mae cân glasurol Mistar Urdd wedi bod yn ffefryn gyda phlant ym mhob rhan o Gymru ers blynyddoedd mawr,” meddai Aled Siôn, cyfarwyddwr yr Urdd.
“Mae cynhyrchu fersiwn newydd o’r gân, ynghyd a rhyddhau fideo gyda Rapscaliwn a Mistar Urdd, yn ychwanegu at y cyffro yn Abertawe a mannau eraill wrth i’r ŵyl nesáu.”