Prifysgol Abertawe - proffwydo cwymp
Fe fydd rhai o drefi prifysgol Cymru’n wynebu argyfwng yn ystod y blynyddoedd nesa’ wrth i fwy a mwy o fyfyrwyr benderfynu astudio’n agos i gartre’.
Dyna’r awgrym mewn arolwg o fwy na 1,000 o fyfyrwyr a rhieni, sy’n dweud y bydd 47% yn ceisio astudio a byw gartre’ erbyn 2020.
Abertawe yw un o’r llefydd sy’n cael ei enwi yn yr arolwg – gyda phroffwydoliaeth o gwymp o fwy na 40% o fyfyrwyr o bant – ond fe fyddai prifysgolion fel Aberystwyth a Bangor hefyd dan fygythiad.
Mae hynny ddwywaith mwy na’r canran ar hyn o bryd ac, yn ôl cwmni yswiriant LV=, sy’n rhoi’r bai ar y cynnydd mewn ffioedd a chostau byw.
Ond mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu ei gwneud hi’n fwy anodd i bobol ifanc dramor ddod i wledydd Prydain i astudio.
Mae nifer y brifysgolion Cymru’n dibynnu’n drwm ar hynny ac mae mwyafrif eu myfyrwyr yn dod o Loegr.
Cwymp yn y cyfanswm
Yn ôl LV=, fe fydd cwymp yng nghyfanswm y myfyrwyr hefyd, gyda gostyngiad o 14% oherwydd bod llai o bobol ifanc rhwng 18 a 24.
“Mae’r adroddiad am drefi prifysgol yn dangos sut y bydd bywyd myfyrwyr yn cael ei drawsnewid tros y deng mlynedd nesa’, gyda chynnydd mewn ffioedd dysgu yn gorfodi myfyrwyr prifysgol i ailasesu eu cyllid a’u trefniadau byw,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr LV=, John O’Roarke.