Mae rhaglenni S4C yn y ras i ennill 38 o wobrau BAFTA.
Y ddrama Pen Talar sydd wedi cael y nifer fwya’ o enwebiadau, sef 12. Roedd yn “gyfres epig” yn ôl y Sianel, ac mi wnaeth y cyn-Gadeirydd John Walter Jones gyfeirio ati fel y ddrama deledu orau erioed yn yr iaith Gymraeg.
Maw sawl aelod o’r cast a’r criw cynhyrchu wedi eu henwebu: Richard Harrington – Actor Gorau; Mali Harries – Actores Orau; Siôn Eirian ac Ed Thomas – Awdur Gorau.
Un rhaglen sy’ eisoes wedi ennill gwobr BAFTA Plant UK, ac sy’n cystadlu yn y categori rhaglenni plant yn BAFTAs Cymru, yw Y Diwrnod Mawr.
Dyma raglen ddogfen i blant, am blant, sy’n dangos profiad arbennig ar ddiwrnod penodol ym mywyd plentyn.
Bethan Gwanas v Angharad Mair
Mae’r cyflwynwyr Angharad Mair a Bethan Gwanas wedi’u henwebu yn y categori Cyflwynydd Gorau am eu cyfresi Wedi 7 ac O Gwanas i Gbara.
Dyma brawf fod pobol dalentog yn gwneud rhaglenni S4C, yn ôl un o brif swyddogion y Sianel.
“Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n rhaglenni wedi’u henwebu unwaith eto eleni ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru,” meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C.
“Mae nifer yr enwebiadau eleni yn gydnabyddiaeth arbennig o dalent a gwaith caled cynhyrchwyr rhaglenni’r sector annibynnol ar gyfer S4C. Mae Pen Talar ymysg y dramâu mwyaf uchelgeisiol mae S4C wedi eu darlledu ac mae’r nifer o enwebiadau yn deyrnged i bawb a fu’n gyfrifol am y daith o’r sgript i’r sgrin.”
Y rhaglenni eraill sydd wedi eu henwebu:
Caerdydd (pedair)
Y Fenai (tair enwebiad)
O Gwanas i Gbara (tair)
O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück (tair)
Byd Pawb: Nôl i Fethlehem (un)
Ras yn Erbyn Amser (un)
Cyngerdd Mawr Talent Cymru (un)
Only Men Aloud (un)
Llangollen 2010 (un)
Y Daith: O Ddyffryn Aeron i Madagascar (un)
‘Sgota (un)
Byw yn ôl y Llyfr (un)
Pethe (un)
Bydd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2011 yn cael ei chynnal lawr yng Nghaerdydd ddiwedd Mai.