Llys y Goron Abertawe
Clywodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe heddiw dystiolaeth merch oedd yn honni iddi gael ei threisio gan lofrudd honedig.

Mae John Cooper, 66, o Dreletert, ger Abergwaun, wedi ei gyhuddo o lofruddio pedwar person trwy eu saethu.

Honnir ei fod wedi saethu’r miliwnydd Richard Thomas, 58, a’i chwaer Helen, 54, ym mis Rhagfyr 1985.

Cafodd y ddau eu saethu’n agos yn ffermdy Parc Scoveston, ger Aberdaugleddau. Cafodd y tŷ ei roi ar dân.

Mae John Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio Peter Dixon, 51, a’i wraig Gwenda, 52, bedair blynedd yn ddiweddarach.

Ymosodwyd ar y ddau wrth iddyn nhw gerdded ar hyd llwybr arfordirol ger yr Aber Bach ym mis Mehefin 1989.

Mae John Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o bum lladrad arfog treisgar ar bum person ifanc mewn cae yn Aberdaugleddau ym mis Mawrth 1996.

Digwyddodd yr ymosodiad pan oedd y dioddefwr yn 15 oed. Eisteddodd yn gwylio fideo yn y llys o’i chyfweliad â’r heddlu yn dilyn yr ymosodiad.

Roedd y ferch, nad oes modd ei henwi, yn eistedd y tu ôl i sgrin yn llys y Goron Abertawe fel nad oedd y diffynydd yn gallu ei gweld.

Clywodd y rheithgor fod dyn yn gwisgo masg wedi nesáu atyn nhw yn y cae gan fflachio tortsh ar y gwn saethu oedd ganddo.

Honnir iddo dreisio un ferch yn ystod yr ymosodiad ac ymosod yn amhriodol ar ferch arall.

Mae John Cooper yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Cyllell

Honnodd y ferch ei bod hi wedi ei llusgo gerfydd ei gwallt ar wahân i weddill y grŵp a’i threisio gan John Cooper.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi dal cyllell at ei gwddf a dweud “paid â llefain” cyn tynnu ei siwmper dros ei cheg.

Dywedodd fod y treisiwr wedi ei chicio hi yn ei hochor cyn dad wneud ei jîns.

Clywodd y rheithgor gan ail ddioddefwr oedd yn dweud fod y dyn wedi ymosod yn rhywiol arni.

Ychwanegodd nad oedd hi’n gwybod fod ei ffrind wedi ei threisio nes bod yr ymosodiad ar ben.

Wrth adael roedd yr ymosodwr wedi saethu i mewn i’r awyr a dweud y byddai’n eu lladd nhw pe baen nhw’n crybwyll y peth wrth unrhyw un.

Dim ond yn ddiweddarach y sylwodd y grŵp fod un o’r merched yn welw ac yn crio, a dywedodd hi ei bod hi wedi ei threisio.

Cafodd yr achos llys, a fydd yn parhau am 10 wythnos, ei ohirio nes yfory.