Michael Farmer
Bydd Uwch Farnwyr ar draws Cymru yn talu teyrngedau i Michael Farmer QC yn llysoedd Cymru fore ddydd Iau.
Fe fuodd y Barnwr 66 oed o Sir y Fflint farw ddydd Sadwrn ar ôl teimlo’n anhwylus wrth ymweld â Llundain.
Roedd wedi bod yn farnwr ar gylchdaith Cymru a Chaer ers 2001, ac wedi cynrychioli Plaid Cymru am sedd Conwy yn etholiad 1974.
Roedd hefyd yn gadeirydd adolygiad arbennig i Gyngor Ynys Môn yn 1998-99.
Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ei fod yn gefnogol iawn i bopeth Cymreig.
“Roedd hi’n drist iawn clywed ei fod wedi marw,” meddai. “Roedd yn gymeriad hoffus iawn ac yn genedlaetholwr a oedd yn gefnogol iawn i bopeth Cymreig.
“Roedd wedi chwarae rhan allweddol yn y gyfundrefn gyfreithiol ac roedd wedi buddsoddi llawer iawn o’i egni er mwyn datblygu’r llysoedd teuluol yn y gogledd.
“Mae wedi marw ar amser allweddol wrth i bethau ddatblygu a symud ymlaen ymhellach, ac yn anffodus ni fydd yma i weld ffrwyth ei lafur.
“Roedd yn gyfaill i mi am dros 50 mlynedd ac rydw i’n cydymdeimlo gydag Olwen a’r teulu.”
Dechreuodd yr Ustus Farmer, gafodd ei addysgu ym Mhenygroes, Gwynedd, ei yrfa yn athro yn Llandudno.
Ymunodd â Gorsedd y Beirdd dwy flynedd yn ôl.
Dyw dyddiad yr angladd heb ei gyhoeddi eto.