Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth Richard Glyn Carslake, 48 oed, wedi cyhuddo dyn o’i lofruddio.
Daethpwyd o hyd i gorff Richard Glyn Carslake mewn fflat ar Stryd Jeddo, Pillgwenlly, toc wedi 9pam ddydd Mercher.
Cafodd dyn 20 oed o ardal Pont-y-pŵl ei arestio ddydd Iau. Dywedodd Heddlu Gwent y bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili heddiw.