Mae heddlu Porthmadog yn galw am wybodaeth ar ôl i rywun neu rywbeth ddifrodi man clwydo un o’r gweilch y pysgod sy’n nythu gerllaw.

Mae’r glwyd wedi ei chreu o hen bolyn telegraff sy’n sefyll ar ymyl Afon Glaslyn, ger Porthmadog.

Dywedodd yr heddlu ei bod wedi ei thynnu o’r llawr rywbryd rhwng 6.30pm ddydd Llun. 21 Mawrth, a 7am ddydd Mawrth, 22 Mawrth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd beth ddigwyddodd ffonio 101 neu 0845 6071001, neu gysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.