Aethpwyd a tri pherson i’r ysbyty neithiwr ar ôl i’w cerbyd daro adeilad deulawr yn Abertawe.
Tarodd y car Fflatiau Sgwâr Ferrara yn rhan forwrol y ddinas am 9.30pm.
Bu’n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ryddhau dau ddyn ac un ddynes o’r car cyn mynd â nhw i’r ysbyty mewn ambiwlans.