Fe fydd un o ymgeiswyr y BNP yn Etholiadau’r Cynulliad yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o losgi copi o’r Qur’an.

Cafodd Sion Owens, sy’n ymgeisydd ar restr ranbarthol De Orllewin Cymru, ei gyhuddo o droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus ddoe.

Mae’r BNP bellach wedi cadarnhau y bydd yn parhau i sefyll yn yr etholiad ar 5 Mai er iddo gael ei arestio.

Yr wythnos ddiwetha’ y cyhoeddodd y blaid y byddai’n ymgeiydd ar gyfer y sedd ranbarthol.

Trochi mewn paraffin

Dywedodd papur newydd The Observer eu bod nhw wedi rhoi fideo i’r heddlu oedd yn awgrymu fod Sion Owens wedi trochi’r Qur’an mewn paraffîn a’i roi ar dân.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru ddoe fod dyn 41 oed wedi ei gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe heddiw.

Cadarnhaodd gwefan y BNP fod Sion Owens wedi ei arestio nos Wener.