Helen Mary Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros blismona i Gymru.

Dywedodd y blaid mai dyna’r unig fodd o amddiffyn y gwasanaeth toriadau San Steffan , a sicrhau fod Cymru yn cael ei heddlua yn ôl yr anghenion yn lleol.

Dywedodd Helen Mary Jones, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli, fod toriadau’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i heddweision rheng-flaen Cymru yn “warthus”.

Dywedodd hefyd ei bod yn rhyfeddu fod Llafur eisiau i benderfyniadau ar swyddi’r heddlu a diogelwch cymunedol gael eu gwneud gan Lywodreath San Steffan.

“Mae’n debyg iawn y gwelwn golli’r hyn sy’n cyfateb i un llu heddlu cyfan. Fe fydd hynny yn cael effaith drychinebus ar gyfraith a threfn yng Nghymru,” meddai Helen Mary Jones.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid yng Nghymru sydd yn galw am drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros gadw ein cymunedau yn ddiogel ac am blismona i Gymru.

“Rydym eisiau gweld mwy o heddweision a chymunedau diogelach yng Nghymru. Cawsom gefnogaeth i’r alwad hon gan heddluoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, tra bod pôl piniwn diweddar wedi amlygu’r ffaith fod 56.2% o bobl yng Nghymru o’r un farn â’r Blaid.

“Ar yr un pryd, mae Llafur yn llawn gytuno gyda’r Toriaid a’r Dem Rhyddion yn hyn o beth. Mae  Llafur yn meddwl ei bod yn well cael dyfodol ein heddlu wedi ei benderfynu gan y Toriaid yn San Steffan na chan bobl Cymru. Ddylen ni ddim gwobrwyo methiant  Llafur i amddiffyn plismona yng Nghymru.”