Dafydd Elis-Thomas
Mae Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, wedi galw ar swyddog adroddol gogledd Cymru i gyfri pleidleisiau Etholiadau’r Cynulliad dros nos.
Mae’r swyddog adroddol rhanbarthol, Mohammed Mehmet, wedi awgrymu ei fod yn bwriadu dechrau cyfrifi’r pleidleisiau ar 6 Mai, y bore ar ôl yr etholiad.
Am y tro cyntaf eleni fe fydd refferendwm yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad.
Bydd y refferendwm ar newid o’r system bleidleisio cyntaf heibio’r postyn i’r system pleidlais amgen yn golygu fod mwy o waith cyfrif i’w wneud dros nos.
Dywedodd Mohammed Mehmet ei fod yn pryderu na fyddai amser i gyfri pleidleisiau’r etholaethau, y rhestrau rhanbarthol, a’r refferendwm ar newid y system bleidleisio dros nos.
Ychwanegodd fod y Comisiwn Etholiadol yn ansicr a fyddai rhanbarthau eraill Cymru yn gallu cael y maen i’r wal.
Ond mae Dafydd Elis-Thomas wedi ysgrifennu at Mohammed Mehmet gan alw arno i ailystyried.
Dywedodd y byddai pobol sydd wedi mynd i’r drafferth i bleidleisio yn disgwyl cael gwybod y canlyniad “cyn gynted a bo modd”.
Awgrymodd y gallai pleidleisiau’r seddi rhanbarthol gael eu cyfrif yn ddiweddarach, ond y dylai canlyniadau’r seddi etholaethol gael eu cyhoeddi cyn iddi wawrio.
Yn ei lythyr at Mohammed Mehmet dywedodd y dylai “canlyniadau Etholiad Cyffredinol Cymru fod yn hysbyseb i bawb yn y wlad ar yr un adeg”.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod hi’n cytuno y dylai’r cyfri ddigwydd yr un pryd ym mhob cwr o Gymru.
“Rydw i’n cytuno gyda’r Llywydd. Fe fydd pobol Cymru yn pleidleisio ar 5 Mai ac maen nhw’n disgwyl y bydd y canlyniadau yn cyrraedd yr un pryd yn fuan wedyn,” meddai.