Mae un o ymgeiswyr y BNP yn Etholiadau’r Cynulliad eleni wedi ei gyhuddo o droseddu’n erbyn y drefn gyhoeddus ar ôl i fideo ddod i’r amlwg sy’n awgrymu iddo losgi copi o’r Qur’an.

Dywedodd papur newydd yr Observer eu bod nhw wedi cael gafael ar y ffilm a’i roi yn syth yn nwylo Heddlu De Cymru.

Fe fydd Sion Owens, 41, sy’n ymgeisydd ar restr ranbarthol De Orllewin Cymru, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe yfory.

Mae ail berson gafodd ei arestio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.