Ffordd o dan yr eira
Mae penaethiaid awdurdod lleol wedi penderfynu torri i lawr ar gost trwsio tyllau ar y ffyrdd drwy greu hewlydd o ddeunydd sy’n cael ei ddefnyddio yn y Cylch Arctig.
Maen nhw’n bwriadu dwyn un o syniadau Norwy, a chreu ffyrdd newydd sydd â sylfaen o garreg yn hytrach na chlai.
Mae’r tri gaeaf diwethaf wedi bod yn oer iawn yng Nghymru ac mae cynghorau wedi gorfod talu miliynau i drwsio’r tyllau yn y ffyrdd.
Roedd Sir y Fflint wedi talu bron i £1 miliwn er mwyn trwsio’r tyllau ar ôl y gaeaf diweddaraf.
“Yn ystod y gaeaf mae’r ffyrdd yn rhewi am sawl wythnos ac mae hynny’n eu difrodi nhw,” meddai Steve Jones, pennaeth ffyrdd y cyngor.
“Yng Nghylch yr Arctig, dyw’r rhew ddim yn dadmer yn ystod y dydd ac felly does dim cymaint o dyllau yn datblygu yn y ffyrdd.
“Serch hynny maen nhw yn wynebu problemau pan mae seiliau’r ffyrdd yn rhewi ac yn dechrau codi.
“Mae modd osgoi hynny drwy ddefnyddio deunydd sydd ddim yn cael ei effeithio gan rew i’r un graddau wrth adeiladu’r ffordd.
“Er ei fod yn golygu cost ychwanegol, mae’n gwneud synnwyr o ystyried pa mor oer mae’r gaeafau wedi bod.”
Ychwanegodd na fyddai’n bosib ail osod yr holl ffyrdd yn Sir y Fflint ond ei fod yn gwneud synnwyr wrth adeiladu ffyrdd newydd yn y sir neu wrth adfer hen ffyrdd.