Mae pencadlys S4C yng Nghaerdydd
 
 Mae S4C yn mynd i galon y Fro Gymraeg, i ddangos ei drama ddiweddara’ ar sgrîn fawr mewn maes parcio yn Aberdaron.

Mae’n rhan o ymgyrch i geisio denu mwy o bobol i ddod i gyfarfodydd i ddweud eu barn am arlwy’r Sianel, a rhoi gwell syniad i’r penaethiaid o’r hyn mae’r gynulleidfa am ei chael.

 Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd S4C yn ymweld â Llŷn ac Eifionydd, gan gynnal nosweithiau yn yr ardal fydd yn cynnwys cwis tafarn. 

Ymhlith y digwyddiadau, sy’n cychwyn wythnos nesa’ fel rhan o ymgyrch ‘Calon Cenedl’, bydd dangosiad arbennig o bennod gyntaf y ddrama leol newydd Porthpenwaig ar sgrîn fawr mewn maes parcio yn Aberdaron.

 Ac ar nos Fawrth, Ebrill 19, bydd cyfle i bobol leol gyfarfod Prif Weithredwr a Chadeirydd dros dro Awdurdod S4C a rhoi eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel, mewn noson yn y Ganolfan ym Mhorthmadog.

‘Agosach at y gwylwyr’

Fe ddywedodd Cadeirydd dros dro S4C wrth Golwg360 fod y digwyddiad yn gyfle i’r sianel “ddod yn agosach at y gwylwyr” ac y gallai S4C “wastad ddysgu gan ei gwylwyr”.

“Mae’r cyhuddiad wedi’i daflu aton ni ein bod ni wedi mynd yn rhy bell o’n gwreiddiau,” meddai Rheon Tomos, cyn pwysleisio bod y Sianel eisoes yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus er mwyn gwrando ar farn y gwylwyr. 

“Ond, roedd y cyfarfodydd hynny yn rhy ffurfiol i rai – felly rydan ni wedi trio cael amrywiaeth o bethau a digwyddiadau i annog mewnbwn,” meddai Rheon Tomos.

Er hyn, roedd o’r farn fod y cyfarfodydd cyhoeddus y llynedd yn “llwyddiannus” ac wedi denu “amrywiaeth o bobl”.

 

Y gynulleidfa graidd

Fe ddywedodd Rheon Tomos bod y “Sianel yn gwrando ar bobol, gweithio gyda chyflenwyr” a’r staff comisiynu yn “gweithio fel slecs”  yn ystod cyfnod “andros o bwysig” i S4C.

“Mi fydd hi’n bwysig iawn gwybod beth sydd gan bobl Llŷn ac Eifionydd i’w ddweud,” meddai. “Yn Nhregaron, roedd pobl yn barod i roi barn a chynnig awgrymiadau, felly gobeithio bydd pobl Llŷn ac Eifionydd, mae’n gynulleidfa graidd”. 

Fe ddywedodd hefyd y byddai S4C yn “cynnal cyfarfod agored yn yr Eisteddfod.”