Fe fydd cwpl yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi’u cyhuddo o achosi dioddefaint diangen i lu o anifeiliaid oedd yn byw yn eu cartref. 

Roedd Eric Buckley, 56 oed, a’i wraig Doreen, 46 oed, yn cadw cath, 11 ci, naw gŵydd, merlyn a dwy afr yn llawr isaf eu cartref ym Mhontypridd. 

Fe fydd y ddau yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Rhondda wedi’u cyhuddo o achosi dioddefaint diangen i’r anifeiliaid yn ogystal â methu cwrdd â’u gofynion. 

Mae nhw’n gwadu’r cyhuddiadau.