Priodas hoyw
Gydag wythnos i fynd tan y Mardi Gras cynta’ erioed yn y gogledd, mae un o’r trefnwyr wedi dweud wrth Golwg360 ei fod eisiau i bobl ‘hetro rywiol a hoyw’ gymysgu gyda’i gilydd yn ‘un Gymdeithas’ heb gael eu diflasu gan areithiau gwleidyddol.
Fe fydd gŵyl hoyw a thrawsrywiol gynta’r gogledd yn cael ei chynnal ym Môn wythnos i heddiw gyda cherddoriaeth, ffair a stondinau ar gae Mona’r ynys.
“Does yna ddim areithiau hawliau hoyw,” meddai Keith Parry, un o’r trefnwyr, sy’n gobeithio denu 1,000 i’r ŵyl.
Mae’n pwysleisio bod y syniad o Fardi Gras yn wahanol i ŵyl Pride.
“Wnes i sylwi o’r blaen mewn llefydd fel Caerdydd a Manceinion – pan oedden nhw’n dechrau â’r areithiau gwleidyddol – bod pobl yn cerdded i ffwrdd,” meddai.
Fe ddywedodd bod trefnwyr wedi holi pobol ar Facebook, yn nhafarn y Three Crowns ym Mangor ac eraill am eu barn wrth drefnu’r ŵyl – cyn penderfynu ar y mater.
Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol ar y dydd Sadwrn, sef wythnos i yfory.
Angen hwyl nid pregeth
“Rydw i eisiau i bobl gael hwyl a mwynhau. ‘Dw i eisiau i bawb yn hoyw a hetro-rywiol gymysgu gyda’i gilydd – yn un gymdeithas,” meddai Keith Parry.
“Dyw pobl ddim eisiau clywed areithiau. Maen nhw eisiau hwyl a mwynhau – ddim gwrando ar ddarlithoedd a chael eu diflasu hyd syrffed. Maen nhw eisiau mynd yno i fwynhau’r gerddoriaeth a dawnsio.
Mae Keith Parry yn gobeithio denu rhwng 400 a 1,000 o bobol i’r digwyddiad. “Mi fydden ni’n hapus â hynny,” meddai.
Mae’n gobeithio y bydd teuluoedd hefyd yn dod allan i gefnogi’r achos cyntaf o’i fath yng ngogledd Cymru.
Mae Mardi Gras tebyg wedi ei gynnal yng Nghaerdydd ers dros ddegawd ac roedd y digwyddiad hwnnw yn un o’r pethau a sbardunodd Keith Parry i gynnal y digwyddiad yng ngogledd Cymru. “Yng Nghaerdydd, roedd popeth yn Saesneg. Ond mae lot o’r grwpiau’n lleol yn fan hyn – mi fydd yna ddipyn o Gymraeg.”
Gobeithion…
Mae Keith Parry yn gobeithio cynnal yr ŵyl yn y gogledd yn flynyddol wedi’r digwyddiad eleni. “Fe fydd hi’n haws ei drefnu tro nesaf. Bydd pobl wedi clywed amdano ac eisiau dod.
“Mynd yn fwy a mwy y gwnaiff o… Mae popeth yn dechrau’n fach ac yna’n tyfu.”