Mae cantores bop enwoca’r byd wedi bod yn holi dwy Gymraes am hynt a helynt yr iaith Gymraeg.
Madonna (Llun gan Vince Flores, PA Images)
Mae’r ddwy wedi son wrth Golwg360 am eu profiadau’n gweithio fel ecstras ar ffilm ddiweddaraf Madonna.
Fe gafodd Carys Ann Jones, 27 o Gaergybi, a Sian Eleri Jones, 25 o Ros Isa ger Caernarfon, wybod am y cyfle i ymddangos yn y ffilm drwy Ganolfan Cymry Llundain.
Cafodd y ddwy gyfarfod Madonna fis Awst y llynedd yn Ystâd Luton Hoo yng ngogledd Llundain, lle’r oeddan nhw’n ffilmio golygfeydd am Gymru.
“Roedd Madonna eisiau gwybod am hanes yr iaith Gymraeg. Fe ddaru ni ateb llwyth o gwestiynau,” meddai Carys Ann Jones sy’n byw yn nwyrain Finchley yn Llundain.
“Roedd hi’n braf cael dysgu Madonna am ein hiaith a hefyd cael y cyfle i roi’r iaith ar y sgrin fawr . Efallai y bydd hyn yn rhoi hwb i’r iaith ac y bydd mwy o bobl eisiau dechrau dysgu’r iaith Gymraeg,” meddai.
Yn ôl Carys Ann Jones bu’n “siarad a chanu gyda Madonna am dair awr” rhwng saethu golygfeydd gan drafod popeth “o’i phen-blwydd hi i’r tywydd.”
“Roedd hi’n ddynes lyfli, hawdd i siarad efo hi…Mae’n berson dw i wedi ei hedmygu ers yn ferch fach.”
Y ffilm
Mae ffilm Madonna yn adrodd hanes y Brenin Edward yn dod i Gymru a dychryn wrth weld amodau byw yn y pentrefi glofaol.
Er mwyn rhoi blas o Gymru i’r prosiect roedd angen ecstras oedd yn medru siarad Cymraeg.
“Mewn un olygfa, roedd rhaid i ni weiddi a rhoi croeso mawr i’r Brenin Edward oedd wedi dod i weld y pentref tlawd yr oedden ni’n byw ynddo,” meddai Carys Ann Jones.
“Roedd yn amser pwysig. Doedd neb wedi dod i weld y pentref am flynyddoedd felly roedd rhaid i ni actio’n hapus dros ben – yn gweiddi pethau fel: ‘Croeso i Gymru’, ‘Mae mor braf i’ch gweld yma’, ‘Hir oes i’r Brenin’, a chwerthin a chael amser da,” meddai Carys Ann Jones.
Yn ôl Sian Eleri Jones “dim ond llond llaw oedd yn medru siarad Cymraeg yn rhugl” ar y set ac roedd hynny’n “fantais fawr” iddi hi a’i ffrind yn ystod y ffilmio. “Roedd yn rhoi mwy o gyfle i ni gael rhagor o amser ‘ar-sgrin’ ac roedden nhw’n gofyn ein cyngor am beth i’w weiddi a chanu,” meddai Sian Eleri Jones.
“Fe wnaethon nhw drio ein cael ni i ganu ‘We keep a welcome in the hillside’ pan oedd y Brenin yn cyrraedd y pentref. Ond, fe wnes i a Carys ddweud efallai na fyddai pobol yr oes yna yn gwybod y gân – doedden ni ddim yn siŵr os oedd hi wedi’i chyfansoddi yn 1930, felly fe wnaethon ni awgrymu ‘Calon Lân’.”
“Fe ddaeth Madonna i fyny aton ni i siarad am y peth,” meddai Sian Eleri Jones.
“Roedd hi’n lyfli. Ti’n clywed yn y papura ei bod hi’n ‘Diva’, ond mae hi yn ddynes neis… Roedd yna storm pan oedden ni’n ffilmio, ac yn lle mynd i mewn a bod yn spoilt, mi safodd y tu allan hefo ni yng nghanol y glaw. Chwarae teg iddi!”
Roedd Sian Eleri Jones wedi sylwi bod y seren ychydig llai na phum troedfedd a dwy fodfedd o daldra. ”Roedd hi’n gwisgo cot fawr hir ddu at ei thraed. Mae hi’n yfed English tea hefyd,” meddai.
Trosleisio gyda’r sêr
Yn ogystal â’r golygfeydd actio, fe gafodd Carys Ann Jones a Sian Eleri Jones hefyd gyfle i recordio eu lleisiau ar gyfer y ffilm.
“Fe ddaru ni recordio’r trosleisiau yn stiwdio De Lane Lea, lle mae llwyth o ffilmiau enwog wedi’u gwneud,” meddai Carys Ann Jones.
“Mae’r waliau yn llawn lluniau pobol fel Dame Judy Dench, Johnny Depp, Helen Mirren, Anthony Hopkins a hefyd – dyna lle’r oedd The Beatles, Rolling Stones a The Who wedi recordio’u halbymau nhw. Roedd hynny yn brofiad gwych!”
Mae’n dweud mai un o’i huchafbwyntiau eraill oedd cael “gweithio gyda’r tîm gwisg oedd wedi ennill Oscars am eu gwaith ar Elizabeth a Shakespeare in Love”.
Bydd y ffilm W.E. yn cael ei rhyddhau yn America fis Mehefin, ac ar ôl yr Haf yma ym Mhrydain.