Y poster
Mae grŵp hawliau anifeiliaid wedi eu beirniadu’n hallt am hysbyseb sy’n honni bod bwydo cig i blant yn fath o gamdriniaeth.

Roedd mudiad Peta sy’n ymgyrchu yn erbyn lladd a bwyta anifeiliaid wedi codi’r poster ym Merthyr Tudful.

Mae’r hysbyseb yn dangos hogyn bach boliog yn bwyta byrgyr.

“Mae rhoi cig i blant yn fath o gamdriniaeth. Brwydrwch y bloneg, a bwyta llysiau,” meddai’r hysbyseb.

Roedd y mudiad wedi gobeithio y bydd y neges yn gwneud i bobol Merthyr Tudful ailfeddwl cyn bwydo cig i’w plant.

Ond mae swyddogion yr awdurdod lleol wedi beirniadu’r hysbyseb, gan ddweud ei fod yn sarhaus ac yn gamarweiniol.

‘Poen meddwl’

“Rydyn ni’n cynnig sawl prosiect bwyta’n iach sy’n mynd i’r afael â phroblem gordewdra plant, ac fe fyddwn ni’n parhau i wneud hynny,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful.

“Yn anffodus, mae neges yr hysbyseb yn sarhaus ac yn amlwg yn anghywir.

“O safbwynt y gwasanaethau plant, does dim digon o feddwl wedi mynd i mewn i’r hysbyseb. Fe allai achosi poen meddwl i blant a phobol ifanc fregus, a’u teuluoedd.

“Mae’n trafod pwnc na ddylai gael ei fychanu yn y fath ffordd.”

Dywedodd Peta eu bod nhw wedi penderfynu gosod y poster ym Merthyr Tudful oherwydd bod y dref yn gartref i ganran uchel o blant gordew,

“Yn ôl Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, mae un ym mhob pedwar o blant Merthyr Tudful yn rhy dew neu yn ordew,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.

“Mae gordewdra yn broblem llawer mwy ymysg pobol sy’n bwyta cig nag ymysg llysieuwr.

“Mae nifer helaeth o blant Prydain yn dioddef yn sgil dietau sy’n llawn cig.

“Rhaid lladd anifeiliaid er mwyn bwyta cig. Mae cannoedd o filoedd o anifeiliaid yn cael eu lladd bob blwyddyn ym Mhrydain.”

Dywedodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu eu bod nhw eisoes wedi derbyn dwy gŵyn am y poster.