Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynllun i symud Ysgol Treganna i safle newydd yn yr ardal.

Mae’r pwyllgor gwaith wedi cymeradwyo symud yr ysgol Gymraeg  i Ffordd Sanatoriwm. Mae disgwyl y bydd yr ysgol newydd wedi’i chodi erbyn mis Medi 2013.

Gyda’r cynllun newydd, fe fydd Ysgol Treganna’n cael adeilad newydd gwrth £9 miliwn wedi’i godi ar dir sy’n eiddo i’r cyngor ac yn tyfu i fod yn ysgol gyda thri dosbarth derbyn a meithrinfa.

Yn wahanol i gynlluniau cynharach, fyddai hyn ddim yn golygu cau na symud yr un ysgol cyfrwng Saesneg yn yr ardal.

Bydd gan bobol gyfnod o fis i wrthwynebu’r cynlluniau. Os oes unrhyw wrthwynebiad, fe fydd rhaid i weinidogion y Cynulliad benderfynu.

Roedd dros 700 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb o blaid codi adeilad newydd i Ysgol Treganna.

Cadarnhaodd y cyngor yr wythnos diwethaf eu bod nhw wedi dod o hyd i’r holl arian sydd ei angen i godi’r ysgol a symud plant oddi yno o’r ysgol bresennol ac uned orlifo Tan yr Eos.

Y cefndir

Fe aeth hi’n ffrae rhwng Plaid Cymru a Llafur ynghynt eleni ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrthod cynnig i gyfuno dwy ysgol gynradd Saesneg yn ardal Treganna a symud yr Ysgol Gymraeg i’r adeilad gwag.

Mae Ysgol Treganna’n fwy na gorlawn, gyda honiadau bod plant ag anghenion arbennig yn derbyn gwersi mewn stafell gwpwrdd. Mae’r broses o geisio cael ateb arall wedi cymryd blynyddoedd.

Fe fu’n rhaid agor uned ychwanegol yn Ysgol Tan yr Eos i gymryd peth o’r gorlif – fe fydd honno’n cau os bydd yr ysgol newydd yn cael ei chodi.

Mwy i ddilyn…