Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth ar ôl i ddynion gipio car menyw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dynes yn profi car BMW 1 du ger Jersey Marine dros y penwythnos, pan ddechreuodd dri dyn mewn Ford Focus fflachio arni.

Ar ôl i’r ddynes 26 ddod a’r car i stop, gorfododd y dynion iddi adael y car cyn dwyn y cerbyd.

Gyrrodd un o’r dynion i ffwrdd yn y Ford Focus a’r ddau arall yn y BMW.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Simon Davies fod y lladrad yn un “anghyffredin iawn” a galwodd ar y cyhoedd i’w helpu nhw â’r ymchwiliad.

“Er nad oedd y dioddefwr wedi ei hanafu, roedd hi wedi cael braw,” meddai.

“Rydyn ni eisiau siarad ag unrhyw un allai fod wedi gweld y ddau gar ger yr orsaf betrol sydd rhwng Llandarsi a Jersey Marine, tua 2pm a 2.30pm ar 3 Ebrill,” meddai.

“Does dim son am y BMW sydd wedi ei ddwyn ac rydyn ni eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y cerbyd ddydd Sul.”

Disgrifiad

Dywedodd yr heddlu mai RF07 MVH yw rhif y BMW a’i fod yn eiddo i gwmni gwerthu ceir Corner Park, o Ffordd Fabian, Abertawe.

Roedd y car hefyd yn cynnwys bag llaw du’r dioddefwr, oedd yn cynnwys pwrs pinc.

Roedd y Forc Focus tua’r un lliw ag afal Granny Smith, medden nhw.

Dywedodd yr heddlu fod un o’r dynion yn wyn, tua 30 oed ond, a ganddo “wyneb ifanc yr olwg”.

Mae tua 6 troedfedd, â chorff cadarn, pen wedi ei eillio, ac roedd yn gwisgo crys-t coch.

Roedd yr ail ddyn yn wyn, tua 30 oed, ac â chorff cadarn. Roedd ganddo wallt byr tywyll ac yn gwisgo dillad tywyll.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw wedi holi’r ddynes ond nad oedden nhw’n ystyried fod ganddi ran yn beth ddigwyddodd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.